Arddangosfa 150 Mlynedd

Cabinet 2

1) Crys Dai Hayward 1961
Gwisgwyd y crys hwn gan David John "Dai" Hayward yn y golled gul o 6-5 yng Nghaerdydd yn erbyn Seland Newydd ar Barc yr Arfau ym 1963. Chwaraeodd Hayward 325 gwaith i Gaerdydd, bu'n gapten ar y clwb ym 1962-63 a 1963-64, ac yn ddiweddarach bu'n gadeirydd Clwb Rygbi Caerdydd.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
2) Crys Chwarteri'r Canmlwyddiant Alan Phillips 1976
Gwisgwyd y crys hwn gan Alan Phillips yn nhymor canmlwyddiant Caerdydd 1976-77. Roedd yn un o fachwyr gorau'r clwb, chwaraeodd 481 gwaith a sgorio 162 o geisiau i Gaerdydd, enillodd 18 cap dros Gymru, a cafodd ei ddewis ar gyfer taith y Llewod ym 1980.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
3) Crys Derek Preece 1981
Gwisgwyd y crys hwn gan Derek Preece yn rownd derfynol Cwpan Schweppes ar Barc yr Arfau ar 11 Ebrill 1981. Curodd Caerdydd Pen-y-bont ar Ogwr o 14-6 o flaen torf o 40,000, gyda cheisiau gan Bob Lakin a Neil Hutchings a dwy gic gosb gan Gareth Davies.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
4) Crys Gareth Davies 1974-86
Gwisgwyd y crys hwn gan Gareth Davies, a chwaraeodd dros Gaerdydd rhwng 1974 a 1986. Roedd yn faswr rhagorol, sgoriodd record clwb o 3,117 o bwyntiau, enillodd 21 cap dros Gymru, a teithiodd gyda'r Llewod ym 1980. Ym 1994 fe'i penodwyd yn brif weithredwr Clwb Rygbi Caerdydd.
Ar Fenthyg: Gareth Davies
5) Crys Tymor 1986-87
Mae'r crys hwn yn dyddio o dymor 1986-87, ymgyrch lwyddiannus pan enillodd y clwb Gwpan Cymru trwy guro Abertawe o 16-15 yn y Stadiwm Cenedlaethol.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
6) Toriadau Papur Newydd, Taith De Affrica i Brydain ac Iwerddon 1906-07
Casgliad o doriadau papur newydd yn cofnodi taith De Affrica ym 1906-07 gan gynnwys buddugoliaeth Caerdydd o 17-0, un o ddim ond dwy golled i’r ymwelwyr. Mae'r adroddiadau’n adlewyrchu pwysigrwydd y canlyniad, yn ogystal â’r sylw cynyddol ymysg y cyfryngau tuag at y teithiau rygbi rhyngwladol cynnar.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
7) Cerdyn Galar – Caerdydd v De Affrica 1907
Cerdyn galar yn dathlu buddugoliaeth Caerdydd dros Dde Affrica ym 1907. Mae eitemau o'r fath yn adlewyrchu'r traddodiad Edwardaidd o ffugio galar i wawdio colled y gwrthwynebwyr. Mae’n rhoi mewnwelediad i ddiwylliant y cefnogwyr ac arferion dathlu yn nyddiau cynnar y gêm.
Ar Fenthyg: Ken Poole MBE a'r teulu
8) Toriadau Papur Newydd – Taith Awstralia i Gymru a Lloegr 1908-09
Toriadau papur newydd yn cofnodi taith Awstralia i Gymru a Lloegr ym 1908-09, gan gynnwys buddugoliaeth Caerdydd o 24-8. Enillodd y Wallabies tair allan o'r pedair gêm brawf. Mae'r sylw yn y wasg yn dangos diddordeb eang mewn rygbi yn sgil teithiau Seland Newydd (1905) a De Affrica (1907-08).
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
9) Rhaglenni Caerdydd v Awstralia
Mae'r casgliad yma o raglenni yn dathlu gemau Caerdydd yn erbyn timau teithiol o Awstralia rhwng 1908 a 1984. Maent yn cofnodi chwe buddugoliaeth i Gaerdydd dros Awstralia, o’r ornest gyntaf ym 1908 i'r fuddugoliaeth fythgofiadwy o 16-12 ym 1984. Mae'r rhaglenni'n adlewyrchu gallu Caerdydd i gystadlu yn erbyn gwrthwynebwyr rhyngwladol blaenllaw a'u curo, gan atgyfnerthu ei enw da fel un o'r timau clwb cryfaf rygbi'r byd yn y cyfnod amatur.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
10) Baner Caerdydd v Awstralia 1908
Baner yn cofnodi gêm gyntaf Caerdydd yn erbyn Awstralia ym 1908, buddugoliaeth o 24-8. Dyma enghraifft gynnar o’r traddodiad o gyfnewid baneri cyn y gêm ac o ddathlu gemau rhyngwladol y clwb gyda gwrthrychau coffa.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
11) Baner Dyfarnwr Llinell Caerdydd v De Affrica 1951
Baner dyfarnwr llinell o’r gêm ym 1951 yn erbyn tîm teithiol cryf o Dde Affrica. Er i Gaerdydd golli o drwch blewyn, enillodd y perfformiad ganmoliaeth gan y gwrthwynebwyr, oedd yn ystyried Caerdydd fel un o'r timau mwyaf anffodus i golli yn eu herbyn.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
12) Rhaglen Caerdydd v Seland Newydd 1953, wedi ei harwyddo
Rhaglen wedi ei llofnodi o’r fuddugoliaeth dros Seland Newydd ym 1953. Mae’n cynnwys llofnodion chwaraewyr, mae'n cyfleu cysylltiad personol â'r tîm ac mae’n gofnod parhaol o ganlyniad a roddodd hwb i enw da Caerdydd yn rhyngwladol.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
13) Record Finyl o Sylwebaeth Caerdydd v Seland Newydd 1953
Record finyl wedi’i gynhyrchu gan y BBC o sylwebaeth radio fyw ar fuddugoliaeth Caerdydd dros Seland Newydd ym 1953. Mae’n cyfleu’r awyrgylch yn y dorf ac arwyddocâd y gêm, ac mae'r clawr, sydd wedi'i lofnodi gan chwaraewyr a'r Cadeirydd, yn ychwanegu at ddilysrwydd yr eitem.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
14) Gwahoddiad Bleddyn Williams, Caerdydd v Seland Newydd 1953
Gwahoddiad swyddogol oddi wrth Gadeirydd y Clwb i'r capten Bleddyn Williams ar gyfer gêm 1953 yn erbyn Seland Newydd. Mae'n adlewyrchu arwyddocâd yr achlysur a phwysigrwydd y gêm i'r clwb, i’r ymwelwyr ac i’r ddinas.
Trwy Ganiatâd Teulu Williams
15) Llun Timau Caerdydd a Seland Newydd 1953
Timau Caerdydd a Seland Newydd gyda’i gilydd y tu ôl i Eisteddle’r Gogledd cyn y gêm. Mae'n adlewyrchu parch y timau at ei gilydd a’r cyffro cyn un o'r gemau mwyaf arwyddocaol yn hanes Caerdydd.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
16) Caerdydd v Seland Newydd 1953 - Adroddiad y Gêm
Adroddiadau’r papurau newydd yn disgrifio buddugoliaeth Caerdydd dros Seland Newydd. Maent yn canmol tactegau a rhagoriaeth Caerdydd, gan nodi'r gamp o guro timau teithiol mawr Hemisffer y De. Cadarnhaodd y canlyniad hwn enw da cynyddol y clwb yn rhyngwladol.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
17) Llun June Williams
June Williams, cefnogwr selog Clwb Rygbi Caerdydd yn y 1950au. Mae hi'n gwisgo siwmper wedi'i wau â llaw mewn lliwiau Caerdydd ac wedi'i orchuddio ag enwau chwaraewyr, sy'n symbol o ddiwylliant y cefnogwyr, hunaniaeth gymunedol, a’r cysylltiadau agos rhwng cefnogwyr a ffigurau eiconig y clwb.
Ar Fenthyg: David Allen