| Cabinet 1 1) Crys Replica 1876 Mae'r crys replica hwn yn ail-greu'r dyluniad a wisgwyd yn ystod tymor cyntaf Caerdydd ym 1876-77. Yn ôl hanes y clwb gan C. S. Arthur, gollyngwyd dyluniad penglog a chroesesgyrn yn fuan, ar ôl i rieni wrthwynebu i'w meibion wisgo "arwyddluniau anhygoel". Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 2) Crys Chwarteri 1884 Gwisgodd Glwb Pêl-droed Caerdydd y crys hwn yn nhymor 1884-85, yn ystod cyfnod pan oedd y clwb yn gwisgo crysau mewn chwarteri yn hytrach na chylchoedd. Gwisgodd Caerdydd crysau chwarterol rhwng 1881 a 1892, ac atgyfodwyd y dyluniad mewn teyrnged yn ystod tymor canmlwyddiant 1976-77. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 3) Crys Rhys Gabe 1905 Mae'r crys hwn, a wisgwyd gan Rhys Gabe, yn dyddio o tua 1905. Chwaraeodd Gabe i Gaerdydd rhwng 1902 a 1910, bu'n gapten ar y clwb ym 1907-08, ac roedd yn rhan o fuddugoliaeth enwog Cymru dros y Crysau Duon ym 1905. Sgoriodd 51 cais mewn 115 gêm i Gaerdydd. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 4) Crys Eddie Watkins 1930au Gwisgwyd y crys hwn gan Eddie Watkins, a chwaraeodd 151 o gemau i Gaerdydd rhwng 1934 a 1939. Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn y Crysau Duon ym 1935 ac yn ddiweddarach newidiodd godau, gan ymuno â Wigan a chynrychioli Cymru mewn Rygbi'r Gynghrair. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 5) Crys Stan Bowes 1945-56 Gwisgwyd y crys hwn gan Stan Bowes, a chwaraeodd 184 o gemau i'r clwb. Dywedir bod Bowes, a oedd yn dipyn o gymeriad, bron â thynnu allan o gêm pan ddarganfu fod y tîm yr oedd wedi cael ei ddewis ar ei gyfer yn chwarae mewn du ac ambr, gan wrthod gwisgo lliwiau Casnewydd. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 6) Grogg TS Donaldson Selby Mae'r Grogg coffa hwn, a gynhyrchwyd i nodi pen-blwydd 150 oed Clwb Rygbi Caerdydd, yn portreadu Thomas Donaldson Selby, capten cyntaf y Clwb. Mae'n cael ei ddangos yn gwisgo cit rygbi gwreiddiol Caerdydd 1876-77 gyda'r penglog ac esgyrn croes, a wisgwyd yn ystod tymor cyntaf y Clwb yn unig. Casgliad Rygbi Caerdydd |
| 7) Bwydlen cinio Blynyddol Clwb Pêl Droed Caerdydd 1889 Cerdyn bwydlen cinio blynyddol 1889 a gynhaliwyd yng Ngwesty'r Angel, pencadlys y clwb ar y pryd. Disgrifiodd y siaradwr gwadd, Richard Mullock, ysgrifennydd URC, Gaerdydd fel "y prif glwb yng Nghymru." "Does dim stiffrwydd ynglŷn â chinio pêl-droed Caerdydd", ysgrifennodd un newyddiadurwr wrth ei fodd. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 8) Bwydlen Cinio Caerdydd v Irish Wanderers 1880 Cerdyn bwydlen y cinio a gynhaliwyd yng Ngwesty'r King's Head, Casnewydd, yn dilyn gêm Caerdydd yn erbyn Irish Wanderers yn Rodney Parade ym mis Tachwedd 1880. Gyda sawl chwaraewr rhyngwladol, roedd y Wanderers yn dîm teithiol answyddogol. Collodd Caerdydd, oedd yn wannach nag arfer, o un cais i ddim. Ar Fenthyg: Y Grŵp Treftadaeth |
| 9) Oriawr Aur Dai Westacott Cyflwynwyd oriawr aur i un ar hugain o chwaraewyr am y record anorchfygol o fewn y clwb ym 1905-06 pan gollodd Gaerdydd ond unwaith yn unig, a hynny i Seland Newydd. Roedd yr oriawr hon yn perthyn i Dai Westacott ac fe'i rhoddwyd gan ei fab Dai, a chwaraeodd i Gaerdydd yn y 1930au. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 10) Cas y Sofran Arian a gyflwynwyd i J.Powell 1911-12 Cas y sofren arian a gyflwynwyd i'r chwaraewr rhyngwladol Jack Powell ar ddiwedd ei dymor olaf i'r clwb, 1911-12, pan oedd yn is-gapten. Chwaraeodd Jack mewn 164 gêm i Gaerdydd dros saith tymor, gan gynnwys y buddugoliaethau dros Dde Affrica ac Awstralia. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 11) Blwch Sigaréts a gyflwynwyd i Johnny Williams 1908-09 Cas sigaréts arian a gyflwynwyd i asgellwr Caerdydd Johnny Williams am ei gyfraniad i bob un o bum buddugoliaeth Cymru ym 1908-09. Chwaraeodd mewn tair Camp Lawn a dros y Llewod, ac roedd yn aelod o Neuadd Enwogion Rygbi'r Byd. Cafodd Johnny ei anafu'n farwol yn y Somme ym 1916. Ar Fenthyg: Ken Poole MBE a'r Teulu |
| 12) Rhaglen Caerdydd v Seland Newydd 1905 Rhaglen swyddogol gêm gyntaf Caerdydd yn erbyn tîm teithiol o Seland Newydd ym Marc Yr Arfau ym 1905. Collodd Caerdydd, gyda chwaraewyr fel Gwyn Nicholls, Percy Bush a Rhys Gabe yn y tîm, o 10-8 gan y tîm a gafodd ei adnabod fel yr “Originals”. Ar Fenthyg: Llyfrgell Treftadaeth Cathays |
| 13) Llofnodion Chwaraewyr Caerdydd 1905 Tudalen o lyfr llofnodion yn cynnwys llofnodion Ralph Thomas, Ned Rumbelow a Reggie Gibbs, a chwaraeodd i Gaerdydd yn erbyn Seland Newydd ym 1905; hefyd Jehoida Hodges (Casnewydd), a oedd yn aelod o dîm Cymru a gurodd Seland Newydd. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 14) Record Finyl o Deyrnged gan Rhys Gabe yn agor Gatiau Gwyn Nicholls 1949 Record finyl o deyrnged Rhys Gabe i Gwyn Nicholls wrth gysegru Gatiau Coffa Gwyn Nicholls gyferbyn â Stryd y Cei, 26 Rhagfyr 1949. Cawsant eu symud i fynedfa Stryd yr Angel a'u hailgysegru gan Jack Matthews a Bleddyn Williams yn 2001. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 15) Toriadau Papur Newydd Caerdydd 1904-05-1907-08 Un o nifer o lyfrau o doriadau papur newydd a gasglwyd gan y clwb. Mae’r un yma yn cynnwys adroddiadau gemau Caerdydd a chrynodebau’r tymhorau rhwng 1904-05 a 1907-08. Mae'n ymdrin, felly, â cholled agos Caerdydd yn erbyn Seland Newydd a'r fuddugoliaeth ysblennydd dros Dde Affrica. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 16) Llun Clwb Pêl Droed Caerdydd 1878-79 Llun cynharaf y tîm, yn dangos y XV a gollodd yn rownd derfynol Cwpan Her De Cymru ym 1879. Yn eistedd yn y rhes ganol, yn bedwerydd o'r chwith, mae Thomas Rees yn gwisgo crys Coleg Caius Caergrawnt a ysbrydolodd Gaerdydd i fabwysiadu’r crys glas a du. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 17) Llun Clwb Pêl Droed Caerdydd 1880-81 gyda Chwpan Her De Cymru Llun yn darlunio pedwar ar ddeg o'r tîm a enillodd Gwpan Her De Cymru ym 1881. Ar ôl curo Casnewydd a Phontypridd, trechodd Caerdydd Llanelli mewn rownd derfynol a amharwyd gan gefnogwyr yn rhedeg ar y cae ac ymosodiad ar ddyfarnwr Caerdydd, sydd hefyd yn y llun. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd 18) Llun Dai Westacott Roedd chwaraewr rhyngwladol Cymru, Dai Westacott, yn flaenwr cadarn i Gaerdydd rhwng 1903-04 a 1909-10, gan chwarae 120 o gemau. Roedd yn weithgar ac yn hynod o gryf, ac mae’n bosib bod ei absenoldeb oherwydd anaf yn un rheswm na faeddodd Gaerdydd Seland Newydd yn 1905. Lladdwyd Dai ger Ypres ym 1917. Trwy Ganiatâd Clwb Rygbi Casnewydd 19) Chwaraewyr Rhyngwladol Caerdydd (y Tri-chwarteri) 1911 Mae'r llun hwn wedi ei lofnodi gan chwaraewyr Caerdydd Reggie Gibbs, Billy Spiller, Louis Dyke a Johnny Williams, sef llinell tri chwarter Cymru ym mis Mawrth 1911. Y diwrnod hwnnw, curodd Cymru Iwerddon o 16-0 i gipio’u seithfed Coron Driphlyg a'r drydedd Gamp Lawn. Ar Fenthyg: Gwyn Prescott |