| Cabinet 3 1) Crys Andy Moore 1994 Mae'r crys hwn, a gafodd ei wisgo gan Andy Moore yn rownd derfynol Cwpan Swalec 1994 ar Barc yr Arfau, lle curodd Caerdydd Llanelli o 15-8, yn cael ei gofio'n annwyl gan gefnogwyr ac mae'n parhau i fod yn un o ddyluniadau mwyaf eiconig y clwb. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 2) Crys Nigel Walker 1992-98 Gwisgodd Nigel Walker y crys yma yng ngêm derfynol Cwpan Swalec 1997, pan sgoriodd gais bythgofiadwy. Chwaraeodd Walker dros Gaerdydd rhwng 1992 a 1998. Roedd yn asgellwr rhyngwladol dros Gymru ac wedi cystadlu dros Brydain yn gynharach fel clwydwr, ac aeth ymlaen i fod yn weinyddwr rygbi Cymreig. Ar Fenthyg: Nigel Walker |
| 3) Crys Jonathan Davies 1995-98 Gwisgwyd y crys hwn gan Jonathan "Jiffy" Davies CBE, a chwaraeodd i Gaerdydd rhwng 1995 a 1998, ar ôl iddo ddychwelyd o rygbi'r gynghrair. Mae Davies yn un o'r ffigyrau mwyaf adnabyddus ym myd rygbi Cymru ac enillodd gapiau dros Gymru rhwng 1985 a 1997. Ar Fenthyg: Jonathan Davies CBE |
| 4) Crys Gleision Caerdydd 2006-07 Mae’r crys Gleision Caerdydd hwn, sy’n dyddio o dymor 2006-07, yn adlewyrchu cyfnod rhanbarthol rygbi Cymru. Mae ei ddyluniad modern yn gwrthgyferbynnu â chrysau cynnar Caerdydd wrth gynrychioli’r un dreftadaeth rygbi a sefydlodd y clwb ym 1876. Ar Fenthyg: Gareth Davies |
| 5) Crys Martyn Williams o gêm Derfynol Cwpan EDF 2009 Gwisgodd Martyn Williams y crys hwn yng ngêm derfynol Cwpan EDF Energy yn Twickenham yn 2008-09, pan gurodd Gleision Caerdydd Gaerloyw o 50-12. Chwaraeodd Williams 226 gwaith dros Gaerdydd ac roedd yn gapten ar y tîm yn ystod blynyddoedd cynnar rygbi rhanbarthol. Casgliad Rygbi Caerdydd |
| 6) Crys Gleision Caerdydd o rownd Derfynol Cwpan Amlin 2010 Gwisgwyd y crys hwn yn wreiddiol yn y gêm yn erbyn Awstralia ym mis Tachwedd 2009. Yn ddiweddarach, cafodd ei ailddefnyddio ar gyfer rownd derfynol Cwpan Amlin 2010, pan gurodd Caerdydd Toulon ym Marseille i ennill eu tlws Ewropeaidd cyntaf. Casgliad Rygbi Caerdydd |
| 7) Crys Taufa'ao Filise, o Rownd Derfynol y Gwpan Her Gwisgodd Taufa'ao Filise y crys hwn yn rownd derfynol y Gwpan Her yn Stadiwm San Mamés, Bilbao, ar 11 Mai 2018. Curodd Gleision Caerdydd Gaerloyw o 31-30, gyda Filise yn ennill tlws Ewropeaidd yn 40 oed. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 8) Crys Caerdydd 2025-26 Mae'r crys cartref hwn yn cyfuno'r cylchoedd traddodiadol glas a du gyda delweddau sy'n dathlu etifeddiaeth gyfoethog y clwb, gan gynnwys Castell Caerdydd, Canolfan y Mileniwm, motifau penglog ac esgyrn croes, Billy’r Morlo a chyfeirnodau at Barc yr Arfau. Casgliad Rygbi Caerdydd |
| 9) Crys Caerdydd 2026-27 Mae crys Caerdydd ar gyfer tymor 2026-27 yn cynrychioli'r bennod ddiweddaraf yn hanes y clwb. Casgliad Rygbi Caerdydd |
| 10) Llyfr Taith Caerdydd i Ffrainc 1949-50 Wedi'i gynhyrchu ar gyfer taith Clwb Rygbi Caerdydd i Ffrainc ym 1949 a 1950, mae'r llyfr hwn yn cofnodi ymweliad a oedd yn cynnwys gêm gyfartal yn erbyn U.S. Cognacaise a buddugoliaeth dros Stade Nantais. Mae'n darlunio trefniadaeth a phwysigrwydd teithio dramor ar ôl y rhyfel. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 11) Gwahoddiad cinio U.S. Cognacaise v Caerdydd Cyhoeddwyd y gwahoddiad hwn ar gyfer y cinio yn dilyn gêm Caerdydd yn erbyn U.S. Cognacaise ar 31ain Rhagfyr 1949 ac roedd yn cynnwys derbyniad diodydd cyn y cinio. Yn ffurfiol ei naws, mae'n dangos y lletygarwch seremonïol a oedd yn gysylltiedig â gemau ar daith y clwb i Ffrainc . Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 12) Bathodyn Taith Clwb Rygbi Caerdydd i Cognac a Nantes, 1949-50 Gwisgodd chwaraewyr Caerdydd y bathodyn yma yn ystod taith y clwb i Cognac a Nantes ym 1949-50. Yn ogystal â bod yn gysylltiad personol i’r daith, mae’n adlewyrchu’r ymdrech i ail-gydio yn y cysylltiadau rhwng Caerdydd a rygbi yn Ffrainc ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 13) Bwydlen Cinio U.S. Cognacaise v Caerdydd 1949 Wedi'i gynhyrchu ar gyfer y cinio a gynhaliwyd ar ôl gêm gyfartal Caerdydd yn erbyn U.S. Cognacaise ar 31ain Rhagfyr 1949, llofnodwyd y fwydlen hon gan aelodau'r ddau dîm. Mae'n cofnodi'r lletygarwch a'r ddefod gymdeithasol a oedd yn rhan bwysig o deithio rygbi ar ôl y rhyfel. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 14) Bathodyn U.S. Cognac v Caerdydd 1946 Mae'r bathodyn hwn yn coffáu gêm Clwb Rygbi Caerdydd yn erbyn U.S. Cognac ar 1af o Ionawr 1946, yn ystod taith y clwb i Ffrainc ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae'n dynodi cam cynnar yn nheithiau rhyngwladol newydd Caerdydd a'r berthynas ddatblygol â rygbi Ffrainc. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 15) Rhaglen U.S. Cognacaise v Caerdydd 1949 Wedi'i gynhyrchu ar gyfer gêm Caerdydd yn erbyn U.S. Cognacaise ar 31ain Rhagfyr 1949, mae'r rhaglen hon yn cynnwys croeso i'r tîm yn Saesneg, ynghyd â ffotograffau a gwybodaeth am y gêm. Wedi'i lofnodi gan nifer o chwaraewyr, mae wedi goroesi fel atgof o daith Clwb Rygbi Caerdydd i Ffrainc ar ôl y rhyfel. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 16) Rhaglen Stade Nantais v Caerdydd 1950 Wedi'i gynhyrchu ar gyfer gêm Clwb Rygbi Caerdydd yn erbyn Stade Nantais ar yr ail o Ionawr 1950, mae'r rhaglen hon yn cynnwys neges o groeso yn Saesneg, gwybodaeth am y tîm a hysbysebion lleol. Wedi'i llofnodi gan nifer o chwaraewyr, mae'n dangos rôl ymarferol a choffaol deunydd printiedig ar deithiau rygbi ar ôl y rhyfel. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 17) Llun Stade Nantais v Caerdydd 1950 Mae'r ffotograff hwn yn dangos y timau'n cael eu cyflwyno i Weinidog Chwaraeon Ffrainc cyn gêm Caerdydd yn erbyn Stade Nantais ar yr ail o Ionawr 1950. Gan gofnodi buddugoliaeth o 20-3 i Gaerdydd, mae'n adlewyrchu naws seremonïol ac arwyddocâd rhyngwladol y daith. Trwy Ganiatâd Teulu Ash |
| 18) Tocyn Tymor Clwb Pêl Droed Caerdydd 1890-91 Roedd y tocyn tymor 1890-91 hwn yn eiddo i H. M. Ingledew, a chwaraeodd chwe deg naw gêm i dîm cyntaf Gaerdydd. Enillodd dri chap i Gymru, ac yn ddiweddarach helpodd i sicrhau prynu Parc yr Arfau i Glwb Athletig Caerdydd. Mae'n agor allan i ddangos gemau'r tîm cyntaf a'r ail dîm gyda chanlyniadau wedi'u hysgrifennu â llaw, ac mae'n cyfuno tocyn mynediad, canllaw gemau a chofnod personol mewn un gwrthrych. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 19) Tocyn Tymor Menywod 1905-06 Mae adroddiadau papur newydd cyfoes yn awgrymu y gallai aelod dderbyn un tocyn menyw am ddim gyda'i danysgrifiad. Mae'n dangos bod menywod yn bresennol yn rheolaidd mewn gemau ddechrau'r ugeinfed ganrif. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 20) Tocyn Tymor Clwb Pêl Droed Caerdydd 1913-14 Mae'r tocyn tymor olaf hwn cyn y Rhyfel Byd Cyntaf yn cyfuno mynediad â rhestrau gemau ar gyfer y pymtheg cyntaf a'r timau wrth gefn, ynghyd â swyddogion y clwb, cyn-swyddogion ac is-ddeddfau. Wedi'i rwymo mewn clawr brethyn coch a'i stampio ag arfbais Caerdydd, mae'n dangos sut roedd tocynnau o'r fath hefyd yn mynegi aelodaeth a hunaniaeth. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 21) Tocyn Mynediad Menyw, Clwb Athletig Caerdydd 1923-24 Roedd y tocyn mynediad hwn i fenywod o 1923-24 yn rhoi mynediad i eisteddle’r deiliaid tocyn tymor yng Nghlwb Athletig Caerdydd, gyda seddi wedi'u cadw ond heb eu rhifo. Am bris o 12/6 a'i farcio "heb fod yn drosglwyddadwy", roedd yn rhoi mynediad nid yn unig i rygbi ond hefyd i griced a thenis, gan fod eu hadrannau wedi'u lleoli ym Mharc yr Arfau ar y pryd. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 22) Tocyn Tymor 1985-86 Rhoddodd y tocyn aelodaeth hwn o 1985-86 fynediad i’r eisteddle i gemau rygbi Clwb Athletig Caerdydd ym Mharc yr Arfau. Mae’r rhestr gemau’n amrywio o glybiau Cymru i wrthwynebwyr o Loegr a gemau cwpan, tra bod tudalennau cwpon wedi’u rhifo ag eithriadau ar gyfer gemau rhyngwladol a gemau “pawb i dalu” yn diffinio terfynau ei ddefnydd. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 23) Tocyn Tymor y Gleision 2007/08 Mae'r tocyn tymor hwn ar gyfer 2007–08 yn adlewyrchu cyfnod newydd yn hanes y clwb o dan yr enw Gleision Caerdydd. Cynhyrchwyd fel cerdyn plastig ar gyfer le yn Eisteddle'r De ym Mharc yr Arfau, ac roedd yn cynnwys gemau'r Gynghrair Geltaidd, Cwpan Heineken a Chwpan EDF a chwaraewyd yno. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 24) Rhestr Gemau Clwb Rygbi Caerdydd 1894/95 Mae'r rhestr gemau hon o 1894–95 yn cofnodi calendr chwarae'r clwb yn erbyn gwrthwynebwyr lleol, Cymreig a Phrydeinig. Mae ei defnydd o "pêl-droed" yn hytrach na "rygbi" yn adlewyrchu terminoleg y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tra bod yr hysbyseb bara yn dangos rôl fasnachol canllawiau printiedig o'r fath yng Nghaerdydd yn oes Fictoria. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 25) Tocyn Tymor Gweithwyr 1891/92 Mae'r tocyn tymor hwn i weithwyr yn adlewyrchu poblogrwydd Clwb Pêl-droed Caerdydd ymysg cefnogwyr gweithiol. Wedi'u cyflwyno yn ystod y tymor blaenorol yn am gost o 2s 6d, profodd y tocynnau hyn yn boblogaidd iawn, gyda gwerthiant yn codi o 968 yn 1890–91 i 1,678 yn 1891–92; roedd menywod yn cael mynediad am ddim. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 26) Tocyn Maes Clwb Pêl Droed Caerdydd 1892/93 Mae'r tocyn maes hwn o 1892–93 wedi goroesi mewn cas plygu glas sy'n cynnwys tabiau lliw ar gyfer gemau unigol ym Mharc yr Arfau. Gan restru swyddogion y clwb ochr yn ochr â gemau fel Taibach, Cymry Llundain a Coventry, mae'n dangos y weinyddiaeth gynyddol drefnus o gemau. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 27) Tocyn Tymor 1968/69 Roedd y tocyn tymor hwn ar gyfer y prif eisteddle 1968–69 yn caniatáu i'r deiliad fynychu gemau clwb Caerdydd ym Mharc yr Arfau, gan gynnwys gemau'r tîm cyntaf a XV yr 'Athletic' ond nid i gemau rhyngwladol. Mae'n dod o'r tymor olaf cyn i safle Parc yr Arfau gael ei ailddatblygu'n ddwy stadiwm rygbi. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 28) Tocyn Tymor Adran Rygbi Clwb Athletig Caerdydd 1923/24 Roedd y tocyn tymor hwn o 1923–24 ar gyfer adran rygbi Clwb Athletig Caerdydd yn cyfuno mynediad i'r eisteddle â rhestrau gemau ar gyfer y tîm cyntaf, y timau wrth gefn ac 'Extras Caerdydd'. Mae ei gwponau rhifedig a'i reolau printiedig yn dangos y drefniadaeth ofalus o fynediad i gemau Caerdydd ar ddechrau'r ugeinfed ganrif. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 29) Llyfr Taith Caerdydd i Ganolbarth Lloegr 1912 Wedi'i gynhyrchu ar gyfer gemau taith Caerdydd ym 1912 yn erbyn Moseley a Coventry, mae'r llyfr taith hwn yn cynnwys yr amserlen, y tîm, canlyniadau diweddar a'r record flaenorol yn erbyn Moseley. Mae'n tynnu sylw at reoleidd-dra gemau rhwng y ddau glwb ac yn nodi gêm a gafodd ei ohirio ym 1900 yn dilyn marwolaeth yr Ardalydd Bute. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 30) Rhestr Gemau Clwb Rygbi Caerdydd 1908-09 Mae'r rhestr gemau hon ar gyfer tymor 1908–09 yn cofnodi gemau'r tîm cyntaf a'r ail dîm, gan ddangos ystod y gemau clwb yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Mae hefyd yn rhagddyddio llysenw diweddarach yr ail dîm, “y Rags”, gan gynnig cipolwg ar gyfnod cynharach yn hanes y clwb. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 31) Tei Canmlwyddiant Aelod Clwb Rygbi Caerdydd 1976 Wedi'i gynhyrchu i aelodau Clwb Rygbi Caerdydd yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y clwb ym 1976, mae'r tei hwn yn coffáu can mlynedd o hanes y Clwb. Mae'n adlewyrchu'r balchder a'r unoliaeth sy'n gysylltiedig â dathliadau canmlwyddiant Rygbi Caerdydd. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 32) Tei Aelod Clwb Athletig Caerdydd Yn dyddio o'r 1970au, mae gan y tei hwn i aelodau Clwb Athletig Caerdydd ddyluniad clasurol sydd wedi aros yn weddol gyson dros amser. Yn dywyll gyda streipiau croeslin glas golau, mae'n nodi'r gwisgwr fel aelod o Glwb Athletig Caerdydd ac yn adlewyrchu lliwiau'r clwb a wisgir y tu hwnt i'r cae chwarae. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 33) Tei Chwaraewr Caerdydd 1935-49 Cyflwynwyd y tei cap chwaraewr Clwb Rygbi Caerdydd hwn, a welwyd am y tro cyntaf ym 1935, i chwaraewyr a wnaeth nifer rhagofynnol o ymddangosiadau mewn un tymor. Mae ei ddyluniad bron yn union yr un fath â'r tei ieuenctid a ddefnyddir heddiw. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 34) Tei Chwaraewr Caerdydd ar ôl y Rhyfel Mae'r tei yma ar gyfer chwaraewyr Clwb Rygbi Caerdydd ar ôl y rhyfel yn nodi cymhwysedd trwy ymddangosiadau. Mae'n adlewyrchu parhad traddodiad a sefydlwyd cyn yr Ail Ryfel Byd, pan gyflwynwyd y tei i chwaraewyr a oedd wedi cyrraedd y nifer gofynnol o gemau. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 35) Tei Chwaraewr Tîm Ieuenctid Caerdydd Gwnaethpwyd y tei yma ar gyfer tîm ieuenctid y clwb. Mae'n nodi aelodaeth rygbi Caerdydd ar lefel ieuenctid ac yn dangos sut y cafodd chwaraewyr iau eu cydnabod o fewn sefydliad ehangach y clwb. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 36) Tei Cyn-Chwaraewyr Caerdydd Gwnaed y tei Cyn-Chwaraewyr Clwb Rygbi Caerdydd hwn ar gyfer cyn-chwaraewyr y clwb. Mae'n dangos bod yna lle parhaus i gyn-chwaraewyr o fewn y clwb, gan ddangos sut mae hunaniaeth a pherthynas y clwb yn ymestyn y tu hwnt i yrfa chwarae. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 37) Tei Tîm Athletig Caerdydd, Blwyddyn y Canmlwyddiant 1979 Wedi'i gynhyrchu ar gyfer XV Athletig ym 1979, mae'r tei hwn yn coffáu canmlwyddiant ail dîm y clwb. Mae ganddo gefndir glas golau, streipiau croeslin tywyll a bathodyn brodiog, gyda'r dyddiad 1879 a'r llythrennau cyntaf "RAGS". Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 38) Rhaglen Twrnamaint Saith Bob Ochor Middlesex 1939 Wedi'i gynhyrchu ar gyfer Twrnamaint Saith Bob Ochr Middlesex yn Twickenham ym mis Ebrill 1939, roedd y rhaglen hon fel canllaw i'r digwyddiad ac yn gofrodd o'r achlysur. Mae'n gysylltiedig â llwyddiant Clwb Rygbi Caerdydd yn un o brif gystadlaethau saith bob ochr y cyfnod. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 39) Rhaglen Caerdydd v Ynysoedd Prydain 1951 (Gêm Pen-blwydd 75) Wedi'i gynhyrchu ar gyfer gêm 75 mlynedd Caerdydd yn erbyn Tîm Teithio Prydain ar Barc yr Arfau, mae'r rhaglen gofrodd hon yn coffáu carreg filltir bwysig i'r clwb. Y twristiaid o 1951 oedd y cyntaf i gael y llysenw "Y Llewod", ac roedd y gêm yn cynnwys pump o chwaraewyr Caerdydd a ymddangosodd ar y daith honno hefyd. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 40) Rhaglen Caerdydd v Tîm Llywydd URC 1970 Wedi'i gynhyrchu ar gyfer gêm Caerdydd yn erbyn XV Llywydd Undeb Rygbi Cymru ar Barc yr Arfau ym mis Hydref 1970, roedd y rhaglen gofrodd swyddogol hon yn nodi agoriad y maes presennol. Cyn y gêm, gorymdeithiodd ddau ar bymtheg o gyn-gapteiniaid y clwb ar y cae, a cafodd y gêm ei gychwyn gan Arglwydd Faer Caerdydd. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 41) Rhaglen Caerdydd v y Maori 1926 Cynhyrchwyd y ddwy raglen yma ar gyfer gemau Caerdydd yn erbyn tîm teithio y Maori ym mis Tachwedd a Rhagfyr 1926. Maent yn adlewyrchu'r diddordeb a grëwyd gan y daith ac yn cyflwyno'r Maori fel tîm cyffrous, unigryw. Mae'r ddau hefyd yn cynnwys cystadlaethau croesair eitha’ anodd! Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 42) Rhaglen Caerdydd v Pontypridd 1930 Mae’r rhaglen hon yn ymwneud â gêm yn erbyn Pontypridd ym 1930. Mae nodiadau golygyddol yn nodi bod Caerdydd wedi dioddef dwy golled yn olynol. Collodd Caerdydd y gêm, er bod y clwb yn rhedeg dau dîm cyntaf ar y pryd, arbrawf a ddaeth i ben yn ddiweddarach. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 43) Rhaglen Caerdydd v Y Barbariaid 1950 Wedi'i gynhyrchu ar gyfer gêm Caerdydd yn erbyn y Barbariaid ar Barc yr Arfau ar 8fed o Ebrill 1950, mae'r rhaglen swyddogol hon yn adlewyrchu gofynion y gêm ar ôl y rhyfel. Roedd pum chwaraewr Caerdydd i ffwrdd gyda thîm Ynysoedd Prydain yn Seland Newydd, tra bod y Barbariaid yn cynnwys dau ddeg dau chwaraewr rhyngwladol. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 44) Taflen Canu Cymunedol o Gaerdydd v De Affrica 1931 Mae'r daflen ganu gymunedol hon yn cynnwys, efallai'n syndod, 'God Save the King' ochr yn ochr ag anthem genedlaethol Cymru a chaneuon Cymreig eraill. Mae hefyd yn cynnwys 'Sarie Marais', hoff gân y Springboks - tybed a oedden nhw'n canu wrth adael Caerdydd yn dilyn buddugoliaeth o 13-5. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 45) Record Finyl o 'Cardiff Born' Frank Hennessy 1978 Cyhoeddwyd y record 7 modfedd hon o 'Cardiff born' gan y canwr Frank Hennessy a Chlwb Cefnogwyr Rygbi Caerdydd ym 1978/79. Nid oes angen cyflwyno'r gân i gefnogwyr Caerdydd ac mae'n parhau i fod yn hynod boblogaidd hyd heddiw. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 46) Cerddoriaeth Gorymdaith Capten Bush Wedi'i gysegru i Percy Bush, capten tîm Caerdydd, cyhoeddwyd y gerddoriaeth yma yn agos i Gaerdydd gan Adolphus W. Davies, ac roedd ar werth am 1/6. Chwaraeodd Gymdeithas Fand Arian Dirwest Tongwynlais hi gyda llwyddiant. Roedd Bush yn gapten ar Gaerdydd am dri thymor ac enillodd wyth cap dros Gymru rhwng 1905 a 1910. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 47) Cerddoriaeth The Lads of the Blue and Black Mwy na thebyg wedi ei ysgrifennu yn gynnar yn y ugeinfed ganrif, cafodd y gân hon ei hysgrifennu i Glwb Caerdydd gan John Jones gyda'r harmoni gan G. H. Cole o Gaerdydd, ac roedd ar werth am ddwy geiniog. Mae'n dathlu chwaraewyr enwog Caerdydd gan gynnwys Frank Hancock, Tom Barlow, Gwyn Nicholls a Norman Biggs. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 48) Taflen GWR, yn hysbysebu Caerdydd v Harlequins 1930 Mae’r daflen hon gan Great Western Railway yn hysbysebu taith hanner diwrnod i Gaerdydd ar gyfer gêm Dydd Llun y Pasg rhwng Clwb Rygbi Caerdydd a Harlequins ym 1930. Mae'n dangos bod rygbi Caerdydd yn atyniad i bobl y tu hwnt i'r ddinas, ac yn cael ei hyrwyddo felly ochr yn ochr ag amgueddfeydd, sinemâu a theatrau fel rhan o ddiwrnod allan. Trwy ganiatâd Amgueddfa Cymru |
| 49) Cerdyn Aelodaeth Cefnogwyr Rygbi Caerdydd 1953/54 Mae'r cerdyn aelodaeth yma, syn dod o dymor 1953/54 ac sydd yn perthyn i aelod rhif 72 yn enghraifft o gerdyn sengl sydd yn wahanol i'r rhai llyfryn. Mae'n dangos esblygiad y cerdyn aelodaeth dros amser. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 50) Bathodyn Aelodaeth Clwb Cefnogwyr Gleision Caerdydd 2016/17 Cyhoeddwyd y bathodyn aelodaeth clwb cefnogwyr Gleision Caerdydd hwn ar gyfer tymor 2016/17. Mae'n cynnwys logo'r Gleision, a grëwyd yn 2003, gyda'r tri "shefron" glas ar y bêl i gynrychioli'r afonydd Taf, Elai a Rhymni. Ar Fenthyg: David Allen |
| 51) Bathodyn Aelodaeth Clwb Cefnogwyr Gleision Caerdydd 2019/20 Cyhoeddwyd y bathodyn aelodaeth Clwb Cefnogwyr Gleision Caerdydd yma ar gyfer tymor 2019/20. Mae’r geiriau 'Stay strong for Ows' yn cyfeirio at yr ymgyrch a lansiwyd i gefnogi Owen Williams ar ôl iddo ddioddef anaf difrifol i'w asgwrn cefn wrth chwarae i Gleision Caerdydd. Ar Fenthyg: David Allen |
| 52) Bathodyn Clwb Cefnogwyr Caerdydd Mae Clwb Cefnogwyr Rygbi Caerdydd wedi bodoli ers diwedd y 1940au o leiaf. Mae wedi cynhyrchu amryw o fathodynnau, fel yr un yma, fel y gall aelodau ddangos eu cefnogaeth i'r clwb. Ar Fenthyg: Simon Baker |
| 53) Tocyn Teithio Clwb Cefnogwyr Rygbi Caerdydd i Coventry 1948 Cyhoeddwyd y tocyn teithio hwn gan glwb cefnogwyr rygbi Caerdydd ar gyfer y daith i Coventry ar 4ydd o Fedi 1948. Enillodd Caerdydd y gêm o 12 - 11 yn Ffordd Coundon. Mae'r tocyn yn cofnodi'r trefniadau teithio i alluogi cefnogwyr i ddilyn gemau oddi cartref. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 54) Cerdyn Aelodaeth Clwb Cefnogwyr Rygbi Caerdydd tua 1950 Mae'r cerdyn aelodaeth hwn yn dyddio o tua'r 1950au. Yn ogystal ag enwi swyddogion a phwyllgor y clwb, mae'n nodi rheolau ac amcanion ar gyfer clwb cefnogwyr Caerdydd. Mae'n nodi na ddylai'r clwb geisio gorfodi barn ar reolaeth na pholisi Clwb Rygbi Caerdydd. Rhodd teulu Ron Ayres. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 55) Rhoséd Clwb Rygbi Caerdydd 1987 Cynhyrchwyd y rhoséd yma yn lliwiau'r clwb ar gyfer rownd derfynol Cwpan Cymru 1987. Enillodd Gaerdydd drwy guro Pen-y-bont o 24-15. Mae’n nodi achlysur pwysig yn nhymor y clwb a buddugoliaeth cwpan i'r cefnogwyr ei dathlu. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
| 56) Cerdyn Aelodaeth Clwb Cefnogwyr Rygbi Caerdydd 1949/50 Cyhoeddwyd y cerdyn aelodaeth hwn gan glwb cefnogwyr rygbi Caerdydd ar gyfer tymor 1949/50. Yn ogystal â chofnodi tanysgrifiad yr aelodau, mae'n nodi rheolau'r clwb, gan gynnwys cyfarfodydd blynyddol a phwyllgor i gael eu dewis o blith yr aelodau. Rhodd teulu Ron Ayres. Casgliad Clwb Athletig Caerdydd 57) Llythyr Clwb Cefnogwyr Caerdydd at Bleddyn Williams, 1950 Yn y llythyr yma, mae Clwb Cefnogwyr Clwb Rygbi Caerdydd yn llongyfarch Bleddyn Williams a phedwar chwaraewr arall am gael eu dewis i gynrychioli'r Llewod ar y daith i ben draw'r byd. Mae'n dangos y balchder sydd gan gefnogwyr y clwb wrth weld eu chwaraewyr yn cael eu dewis i'r Llewod. Yn ddiddorol iawn, Percy Bush - un o gyn-chwaraewyr enwocaf Caerdydd - oedd Llywydd Anrhydeddus y Clwb. Trwy Ganiatâd Teulu Williams |