Cabinet 4
1) Bag Cit Taith y Canmlwyddiant
Cynhyrchwyd y bag cit hwn ar gyfer y chwaraewyr ar daith canmlwyddiant Clwb Rygbi Caerdydd i Ganada a'r Unol Daleithiau ym 1977. Mae'n adlewyrchu sut wnaeth y Clwb ymestyn y dathliadau canmlwyddiant y tu hwnt i Barc yr Arfau, gan fynd â'i hanes a'i dreftadaeth dramor.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
2) Rhaglen Caerdydd v XV Rhyngwladol Tramor 1976
Mae'r rhaglen hon, a gyhoeddwyd ar gyfer dathliadau canmlwyddiant Clwb Rygbi Caerdydd, yn cofnodi’r gêm ym 1976 yn erbyn XV Rhyngwladol Tramor ar Barc yr Arfau. Mae'n cynnwys atgofion o rai o fuddugoliaethau mwyaf Caerdydd o'i 100 mlynedd gyntaf ac mae wedi'i llofnodi gan y "Brenin" Barry John, oedd eisoes wedi ymddeol.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
3) Rhaglen Caerdydd v Yr Ariannin 1976
Mae'r rhaglen hon, a gyhoeddwyd yn ystod blwyddyn canmlwyddiant y Clwb, yn cofnodi'r gêm ym 1976 yn erbyn yr Ariannin ar Barc yr Arfau, pan gollodd Caerdydd, a oedd yn cynnwys Gerald Davies a Gareth Edwards, o 29-15 i’r Pumas.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
4) Bathodyn Caerdydd v XV Rhyngwladol Tramor 1976
Fe wisgodd y XV Rhyngwladol Tramor grysau cochion gyda bathodyn canmlwyddiant Caerdydd arnynt ac fe’u cyflwynwyd â’r bathodynnau hyn iddynt i’w “gwnïo ymlaen yn ddiweddarach”. Mae’r bathodyn yn coffáu’r gêm ar Barc yr Arfau a enillwyd gan Gaerdydd o 24–15.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
5) Rhestr Gemau 1976/77
Mae'r rhestr hon o’r gemau yn nhymor canmlwyddiant Clwb Rygbi Caerdydd ym 1976–77 yn cynnwys gemau dathlu arbennig yn ogystal â’r rhaglen arferol. Mae’n cyfeirio hefyd at Daith y Byd arfaethedig ar ddiwedd y tymor, ond fe ddaeth honno’n daith i Ganada a’r Unol Daleithiau yn y pen draw.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
6) Gwahoddiad i Wledd Canmlwyddiant Clwb Rygbi Caerdydd 1977
Dyma wahoddiad i Wledd Canmlwyddiant Clwb Rygbi Caerdydd a gynhaliwyd ar Faes Castell Caerdydd ar 16 Ebrill 1977. Roedd y digwyddiad yn rhan o ddathliadau canmlwyddiant y clwb ac fe'i mynychwyd gan westeion nodedig, gan gynnwys y Prif Weinidog James Callaghan, ochr yn ochr â chynrychiolwyr o fyd rygbi a bywyd dinesig.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
7) Grogg Gareth Edwards
Mae'r Grogg enfawr unigryw hwn, wedi'i wneud â llaw, yn darlunio Syr Gareth Edwards yng nghit Caerdydd. Cafodd ei greu ar gyfer tymor canmlwyddiant 1976/77 a'i roi gan The Groggshop, ac mae'n dathlu un o chwaraewyr gorau hanes rygbi Caerdydd a Chymru.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
8) Grogg Barry John
Dyma Grogg “Y Brenin” Barry John yng nghit Caerdydd. Ymunodd John â'r clwb ym 1967 a ffurfiodd bartneriaeth ddigymar gyda Gareth Edwards. Gwnaeth 93 ymddangosiad i Gaerdydd ac fe'i hystyrir yn un o'r maswyr gorau erioed.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
9) Grogg Gerald Davies
Mae'r Grogg unigryw hwn wedi'i wneud â llaw yn darlunio Syr Gerald Davies yng nghit Caerdydd. Chwaraeodd Davies i'r clwb yn ystod y 1960au a’r 1970au a bu'n gapten ar Gaerdydd am dri thymor. Roedd yn chwaraewr rhyngwladol dros Gymru, y Llewod a'r Barbariaid, ac mae'n parhau i fod yn ffigwr blaenllaw cenhedlaeth chwedlonol.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
10) Rhaglenni Cwpan URC
Daw'r casgliad yma o chwe rhaglen o Rowndiau Terfynol Cwpan Schweppes rhwng 1981 a 1997. Mae pob un ohonynt yn cofnodi gêm derfynol cwpan domestig Undeb Rygbi Cymru y chwaraeodd Caerdydd ynddi yn erbyn y gelynion agos o Ben-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd, Casnewydd ac Abertawe. Caerdydd enillodd pob un o’r gemau.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
11) Esgidiau Jamie Roberts o gêm Derfynol Cwpan Amlin
Gwisgodd Jamie Roberts yr esgidiau yma gyda’i lofnod arnynt yng ngêm Derfynol Cwpan Her Amlin 2010, pan gurodd Gleision Caerdydd Toulon o 28–21. Sgoriodd Roberts gais hollbwysig o dan y pyst wrth i Gaerdydd ddod yr unig dîm o Gymru hyd yma i ennill cystadleuaeth Ewropeaidd.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
12) Rhaglen Caerdydd v Toulouse 1996
Cynhyrchwyd y rhaglen swyddogol hon ar gyfer gêm derfynol gyntaf erioed cystadleuaeth Cwpan Heineken rhwng Caerdydd a Toulouse ar Barc yr Arfau ar 7 Ionawr 1996. Dan gapten Hemi Taylor, cariodd Caerdydd obeithion y dorf gartref i amser ychwanegol, ond colli yn dorcalonnus o 21-18 fu’r canlyniad.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
13) Rhaglen Gleision Caerdydd v Toulon 2010 (Rownd Terfynol Cwpan Amlin)
Cyhoeddwyd y rhaglen swyddogol hon ar gyfer Rownd Derfynol Cwpan Her Amlin 2010 rhwng Caerdydd a Toulon yn Stade Vélodrome, Marseille. Mae’n rhestri tîm sy'n cynnwys chwaraewyr fel Paul Tito (capten), Jamie Roberts a Leigh Halfpenny, rhai o enwogion carfan Caerdydd mewn gêm derfynol cystadleuaeth Ewropeaidd nodedig.
Ar Fenthyg: Rob Hill |
14) Cwpan Amlin, Gleision Caerdydd 2010
Enillodd Caerdydd y tlws yma gyda buddugoliaeth yng ngêm derfynol Cwpan Her Amlin yn 2010. Chwaraewyd y gêm ym Marseille, lle trechodd Caerdydd Toulon o 28–21 i ddod y tîm cyntaf o Gymru i ennill cystadleuaeth cwpan Ewropeaidd.
Casgliad Rygbi Caerdydd |
15) Rhaglen Gleision Caerdydd v Caerloyw, Gêm Derfynol Cwpan EDF 2009
Rhaglen swyddogol y gêm yn rownd derfynol Cwpan Ynni EDF rhwng Gleision Caerdydd a Chaerloyw, a chwaraewyd yn Twickenham yn 2009, diwrnod pan aeth popeth yn iawn i Gaerdydd.
Casgliad Rygbi Caerdydd |
16) Cwpan EDF Energy, Gleision Caerdydd 2009
Enillodd Caerdydd y tlws hwn yn Twickenham gyda buddugoliaeth o 50-12 yn erbyn Caerloyw yng ngêm derfynol y Cwpan Ynni EDF yn 2009 i hawlio’u tlws cyntaf yn y cyfnod rhanbarthol. Roedd clybiau Uwch Gynghrair Lloegr a rhanbarthau Cymru yn rhan o’r gystadleuaeth Eingl-Gymreig.
Casgliad Rygbi Caerdydd |
17) Rhaglen Gleision Caerdydd v Caerloyw, Cwpan Her Rygbi Ewrop 2018
Rhaglen swyddogol Rownd Derfynol Cwpan Her Rygbi Ewrop 2018, gyda dau o arwyr Caerdydd ar y pryd, Gethin Jenkins a Nick Williams yn y llun ar y clawr.
Casgliad Rygbi Caerdydd
|
18) Cwpan Her Ewrop, Gleision Caerdydd 2018
Enillodd Caerdydd ail dlws Cwpan Her Ewrop gyda buddugoliaeth yn erbyn Caerloyw yn Bilbao yn 2018. Ar ôl bod ar ei hôl hi o 20–6 ar yr egwyl, llwyddodd Caerdydd i frwydro nôl i ennill o 31–30, wedi’i selio gan gic hwyr o’r smotyn gan Gareth Anscombe.
Casgliad Rygbi Caerdydd |
19) Llyfr “The Modern Rugby Game and How to Play It” gan Gwyn Nicholls
Gwyn Nicholls, arwr Caerdydd a Chymru, oedd awdur y llyfr hyfforddi yma a gafodd ei gyhoeddi ym 1908. Tynnodd Nicholls ar ei brofiad i egluro arddulliau a thactegau cyfoes. Mae'n cynnig mewnwelediad i'r ffordd roedd rygbi yn cael ei ddeall a'i addysgu yn ystod yr oes Edwardaidd.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd |
20) Llyfr “Percy Bush: Welsh Rugby's Little Marvel
Mae'r cofiant hwn yn archwilio bywyd Percy Bush, un o chwaraewyr rhagorol dyddiau cynnar rygbi yng Nghymru. Diolch i waith ymchwil helaeth, mae'n cofnodi gyrfa dyn oedd yn gapten ar Gaerdydd, a chwaraeodd dros Gymru a’r Llewod, ac a oedd yn ddylanwadol ymhell tu hwnt i’r meysydd chwarae.
Ar Fenthyg: David Allen |
21) Penddelw Percy Bush
Penddelw o Percy Bush, un o'r ffigurau mwyaf nodedig yn nyddiau cynnar rygbi Cymru. Roedd yn Gapten ar Gaerdydd, gan chwarae 171 gêm a sgorio 66 cais. Serennodd ar daith y Llewod ym 1904, ac yn ddiweddarach enillodd 8 cap dros Gymru. Helpodd i lunio arddull ymosodol y gêm.
Ar Fenthyg: Amgueddfa Criced Cymru |