Arddangosfa 150 Mlynedd

Cabinet 5

1) Cap William Treatt 1880/81
Dyma'r cap hynaf yn y cabinet yma. Fe’i cyflwynwyd i William Herbert Treatt yn ystod tymor 1880-81,  Ymunodd Treatt â Chaerdydd pan gafodd y clwb ei ffurfio ym 1876. Fe wasanaethodd fel Ysgrifennydd Anrhydeddus o 1880 tan 1892.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
2) Cap Frank Hill 1883/1893
Cyflwynwyd y cap coffaol yma i  A. F. Hill ac mae'n cofnodi ei wasanaeth i Gaerdydd rhwng 1883 a 1893. Roedd Hill yn flaenwr gwych ac fel capten ar y clwb roedd yn ffigwr amlwg yn ei ddatblygiad fel tîm rygbi blaenllaw.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
3) Cap J F Price, gyda llun o esgid rygbi tu fewn 1891/92
Mae cap yr Ail XV hwn yn dyddio o'r tymor 1891-92 a thybir iddo berthyn i Frederick Price. Mae cofnodion cyfoes yn cyfeirio at ‘F Price’, tra bod tystiolaeth o’r cyfrifiad yn cadarnhau bod Frederick Price yn byw bryd hynny yn y cyfeiriad y tu mewn i'r cap .
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
4) Cap Gwyn Nicholls 1892/93
Mae’r cap Ail XV hwn, a gafodd ei rhoi i Gwyn Nicholls, yn dyddio o’r tymor 1892-93. Daeth Nicholls i gael ei adnabod fel 'Tywysog y Tri-chwarter” ac roedd un o chwaraewyr gorau rygbi Cymru. Mae’n nodi datblygiad cynnar gyrfa a fyddai’n diffinio’r gêm.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
5) Cap Percy Bush 1902/03
Cafodd y cap hwn ei rhoi i Percy Bush yn ystod tymor 1902–03. Roedd Bush yn gapten ar Gaerdydd – chwaraeodd 171 gêm dros y clwb – ac yn chwaraewr rhyngwladol, ac yn ddiweddarach teithiodd gyda'r Llewod, gan ennill enwogrwydd fel un o ffigyrau blaenllaw cynnar rygbi.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
6) Cap Johnny Williams 1903/04
Cyflwynwyd y cap clwb yma i Johnny Williams yn ei dymor cyntaf gyda Chaerdydd. Roedd yn asgellwr gwych ac yn "ffefryn y dorf", ac fe chwaraeodd 199 gêm i Gaerdydd, gan sgorio record hirbarhaol o 150 cais. Roedd yn gapten y clwb ym 1909-10, ac enillodd un deg saith cap.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
7) Cap Charlie Culverwell 1907/08
Cyflwynwyd y cap yma i Charles Culverwell yn ystod tymor 1907-08. Roedd yn aelod o dîm eilyddion Caerdydd, a chwaraeodd criced i Sain Ffagan, sydd yn adlewyrchiad o'r traddodiad yn y cyfnod yma o athletwyr aml-chwaraeon yn cyfrannu i glybiau lleol.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
8) Cap Charlie Bryant 1922/23
Cyflwynwyd y cap yma i Charley Bryant yn ystod tymor 1922-23, pan oedd yn gapten tîm yr eilyddion. Roedd yn asgellwr a sgoriodd 45 o geisiau mewn 80 ymddangosiad. Er iddo gael ei eni ym Mhenarth, cynrychiolodd Iwerddon ym 1920.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
9) Cap Ernie Marsh 1924/25
Cyflwynwyd y cap yma i Ernie Marsh yn ystod tymor 1924-25. Gwnaeth Marsh 57 ymddangosiad i dîm cyntaf Caerdydd rhwng 1923 a 1928, gan ennill cydnabyddiaeth fel aelod rheolaidd o'r tîm uwch yn ystod y cyfnod rhwng y rhyfeloedd.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
10) Cap Bob Barrell 1926/27
Cyflwynwyd y cap yma i Bob Barrell yn ystod tymor 1926-27. Roedd yn chwaraewr allweddol i Gaerdydd yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd, gan chwarae 241 gêm dros y clwb. Yn ddiweddarach enillodd pedwar cap i Gymru, a chynrychioli Sir Forgannwg a Heddlu Sir Forgannwg.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
11) Cap Hubert Johnson 1931/32
Cyflwynwyd y cap hwn i Hubert Johnson yn ystod tymor 1931-32. Gwasanaethodd Johnson y clwb am dros bum degawd fel chwaraewr, gweinyddwr a Llywydd, gan adael etifeddiaeth barhaol a gafodd ei gydnabod wrth enwi Ystafell Hubert Johnson ym Mharc Yr Arfau.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
12) Cap Ivor Williams 1937/38
Cyflwynwyd y cap yma i Ivor Williams yn ystod tymor 1937-38. Chwaraeodd yn y rheng ôl a cafodd ei ddewis i chwarae yn nhreialon Cymru. Ni chwaraeodd dros Gymru, ond serch hynny cafodd ei ddewis ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica, gan chwarae sawl gêm ond dim gêm brawf.
Ar Fenthyg: Ane Williams a'r teulu
13) Cap Frank Trott 1946/47
Cyflwynwyd y cap yma i Frank Trott yn ystod tymor 1946–47. Roedd yn chwaraewr hirhoedlog gan chwarae dros 200 gêm. Enillodd wyth cap dros Gymru, gan wneud ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf ym 1948. Chwaraeodd hefyd dros y Barbariad.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
14) Cap Dai Hayward 1957/58
Cyflwynwyd y cap yma i Dai Hayward yn ystod tymor 1957–58. Roedd Hayward yn un o chwaraewyr blaenllaw Caerdydd a chwaraeodd 325 gem i'r tîm cyntaf, gan sgorio 50 cais. Roedd e'n gapten ar y clwb dros dri chyfnod gwahanol.
Ar Fenthyg: Teulu Hayward
15) Cap Ray Glastonbury  1957/58
Cyflwynwyd y cap yma i Ray Glastonbury yn ystod tymor 1957-58. Yn ddiweddarach, ar Ddydd Llun y Pasg chwaraeodd i'r ail dîm yn y bore ac i'r tîm cyntaf yn y prynhawn, camp unigryw yn hanes y clwb.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
16) Cap Ray Glastonbury 1959/60
Cyflwynwyd y cap yma i Ray Glastonbury yn ystod tymor 1959–60. Chwaraeodd Ray dros 50 o gemau i Gaerdydd cyn chwarae Rygbi'r Gynghrair dros Workington Town, gan ddychwelyd yn ddiweddarach i dde Cymru i chwarae pêl-droed i Cardiff Corries.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
17) Cap Ian Lewis 1970/71
Cyflwynwyd y cap yma i Ian Lewis yn ystod tymor 1970–71. Chwaraeodd bron i 50 o gemau i dîm cyntaf Caerdydd, yn aml pan oedd Barry John ddim ar gael. Yn ddiweddarach, chwaraeodd dros dîm B Cymru, a Chymru yng nghystadleuaeth gyntaf Cwpan y Byd Rygbi Saith Bob Ochr.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd
18) Cap Terry Holmes 1977/78
Cyflwynwyd y cap hwn i Terry Holmes yn ystod tymor 1977-78. Chwaraeodd Holmes fel mewnwr dros Gaerdydd, Cymru a’r Llewod, roedd yn gapten ar y clwb a’i wlad, ac yn un o’r chwaraewyr gorau yn ei gyfnod.
Ar Fenthyg: Terry Holmes
19) Cap Gleision Caerdydd
Mae’r cap hwn yn dyddio o’r tymor 2004-05 ac yn cynrychioli Gleision Caerdydd yn ystod blynyddoedd cynnar rygbi rhanbarthol yng Nghymru. Ochr yn ochr â chapiau cynnar Caerdydd, mae’n tynnu sylw at y trawsnewidiad o’r bathodyn traddodiadol i hunaniaeth fodern yr oes ranbarthol.
Casgliad Rygbi Caerdydd
20) Cap Clwb Rygbi Caerdydd 2014/15
Mae'r cap hwn yn dangos bathodyn traddodiadol Clwb Rygbi Caerdydd ac mae'n cynrychioli ymddangosiadau i’r Rags yn 2014-15. Cyflwynwyd capiau i Bruce Douglas, Craig Lodge a Jack Phillips y tymor hwnnw.
Casgliad Clwb Athletig Caerdydd